Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gyfranogiad yn y Celfyddydau yng Nghymru

Ymchwiliad i Gyfranogiad yn y Celfyddydau

Ymateb ganTy Cerdd-Music Centre Wales

 

1. Pa sefydliad/corff ydych chi’n ei gynrychioli?
Ty Cerdd-Music Centre Wales

 

2. Pa grwpiau o bobl sy’n cyfranogi yng ngweithgareddau celfyddydol eich sefydliad?

Mae Ty Cerdd yn gweithio gyda sefydliadau a cherddorion ar draws Cymru gyfan. Mae wedi sefydlu ac yn gweinyddu 6 o'r 7 ensemble cerdd cenedlaethol ieuenctid yng Nghymru, sef Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru; Y Côr; Y Côr Hyfforddi; Yr Ensemble Jazz, Mynediad Jazz a'r Gerddorfa Chwyth. Mae'n darparu ar gyfer aelodaeth helaeth o berfformwyr amatur trwy ei 400 o aelod-gymdeithasau ledled Cymru yn cynnwys corau cymysg, meibion, merched a phlant, bandiau pres, cymdeithasau operatig/theatrau cerdd a cherddorfeydd. Mae gan Ty Cerdd gyswllt gydag oddeutu 22,000 o berfformwyr sy'n cyfranogi'n gyson yng ngweithgareddau celfyddydol eu cymunedau lleol, sydd ag ystod oedran yn amrywio o blant cynradd i'r rhai yn eu 90au! Mae Ty Cerdd yn gyfrifol am drefnu a chyflwyno prosiect "Healthy Sounds! Synau Iachus", sy'n dod â pherfformiadau cerdd gan grwpiau cerdd cymunedol amatur i ysbytai a chartrefi gofal dros Gymru gyfan. Mae ganddo raglen addysg fywiog ac arloesol, sy'n cynnwys "Cyfansoddwyr Ifanc" a ddatblygwyd mewn partneriaeth gydag ysgolion a cholegau Cymru. Mae Ty Cerdd yn parhau ei gysylltiad ag amrywiaeth o sefydliadau cerdd gan gynnwys Cymdeithasau'r Bandiau Pres a'r Corau Meibion, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Corawl Prydain (Association of British Choral Directors), Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig (WMF), Live Music Now, TRAC, Cyfansoddwyr Cymru ac IAMIC (International Association of Music Information Centres)

 

3. A ydych yn credu bod newidiadau mewn cyllidebau wedi effeithio ar gyfranogiad yn y celfyddydau, yn gadarnhaol neu’n negyddol?

Yn amlwg, mae lleihad o fewn cyllidebau yn golygu bod ein cefnogaeth ariannol wedi gorfod lleihau yn ogystal. 'Rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y cyngherddau sy'n cael eu llwyfanu gan ein cymdeithasau corawl, a lleihad yn y defnydd o unawdwyr proffesiynol a cherddorfeydd proffesiynol fel cyfeiliant ar adegau. Mae'r cymdeithasau operatig/theatrau cerdd yn dewis a dethol eu cynhyrchiadau yn ofalus er mwyn cwtogi ar eu gwariant ariannol. Yn gyffredinol, 'rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y cynulleidfaoedd sy'n mynychu perfformiadau dros y blynyddoedd diwethaf.

 

4. A ydych yn credu bod hyn wedi effeithio mwy ar rai grwpiau o bobl nag eraill?

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, 'rydym wedi derbyn mwy o geisiadau oddi wrth aelodau o'r ensembles cerdd ieuenctid am gymorth ariannol i gwrdd â chostiau'r cyrsiau preswyl. Fel nodwyd uchod, mae cymdeithasau corawl a chymdeithasau operatig/theatrau cerdd wedi gorfod addasu eu cyngherddau/cynhyrchiadau i adlewyrchu eu cyllidebau yn gyffredinol.

 

5. A oes bylchau yn y ddarpariaeth ar gyfer cyfranogiad yn y celfyddydau, o ran demograffeg neu ddaearyddiaeth?

Ar y cyfan, 'rydym yn darparu ar gyfer aelodaeth helaeth sy'n perthyn i bob rhan o'r sbectrwm demograffig a thros Gymru gyfan yn ddaearyddol. Serch hynny, credaf fod gwaith i'w gyflawni wrth gyd-wethio gyda sefydliadau sy'n cynrychioli cymunedau a diwylliannau ethnig o fewn ein cymdeithas.

 

6. A oes digon o ffynonellau ariannu ar gael ar wahân i Gyngor Celfyddydau Cymru? A yw ffynonellau ariannu eraill yn hygyrch?

Mae ffynonellau ar gael, ond byddwn yn gwerthfawrogi cymorth wrth ddod o hyd iddynt, a chymorth ymarferol wrth ymgeisio a llenwi dogfenaeth ar eu cyfer.

 

7. Pa rôl y mae’r sector celfyddydau gwirfoddol yn ei chwarae mewn perthynas â hyrwyddo cyfranogiad yn y celfyddydau yng Nghymru a sut y gellir cefnogi hyn?

Mae'r sector celfyddydau gwirfoddol wedi chwarae rôl hanfodol bwysig mewn perthynas â hyrwyddo cyfranogiad yn y celfyddydau yn hanesyddol. Yn sicr, byddwn yn gweld parhad a chynnydd yn hyn o beth wrth wynebu cyfnod o gyni ariannol. Mae sefydliadau megis Ty Cerdd mewn sefyllfa i gynnig cymorth ymarferol a chyngor artisteg yn rhad ac am ddim. Mae gwefan newydd Ty Cerdd yn fodd i gysylltu cymdeithasau cerddorol â'i gilydd, ac yn gyfrwng i hysbysebu gweithgaerddau a digwyddiadau mewn ffordd ymarferol.

 

8. A yw’r berthynas strategol rhwng Llywodraeth Cymru a’r cyrff sy’n dosbarthu’r arian i’r celfyddydau yn effeithiol o ran cynyddu cyfranogiad? Dim ymateb

 

9. Bydd pob corff cyhoeddus yng Nghymru wedi cyhoeddi cynllun cydraddoldeb strategol erbyn mis Ebrill 2012. A ydych yn credu y bydd y dyletswyddau cydraddoldeb newydd hyn yn y sector cyhoeddus yn helpu i gynyddu cyfranogiad yn y celfyddydau ymysg grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru?

Pe bai'r hyn a amlinellir o fewn y ddogfen yn cael ei wireddu e.e. cydnabod a dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth; cynyddu ystod y gweithgareddau a gynigir; datblygu tystiolaeth gan wella sut i fesuro perthnasedd y darpariaeth ayb., credaf bydd hyn yn hwb i gynyddu cyfranogiad yn y celfyddydau ymysg y grwpiau yma.